top of page
Capture2.JPG

Y Newyddion Diweddaraf:

Mae Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol a elwir hefyd yn Arolwg Cynefin Cam 1 Estynedig wedi’i drefnu ar gyfer 21 Gorffennaf 2023. Mae hyn er mwyn gwerthuso gwerth ecolegol presennol y safle ac i nodi unrhyw gyfyngiadau ecolegol i’r datblygiad arfaethedig. 

DISGRIFIAD O’R DATBLYGIAD
Mae’r Datblygiad Arfaethedig wedi ei leoli yn Tŷ Du Uchaf, Pentreuchaf, Pwllheli, Gwynedd, Gogledd Cymru, LL53 6YB (Cyfeirnod grid OS SH 36520 39909) ar Benrhyn Llŷn yng Ngogledd Cymru rhwng Pwllheli yn y de a Threfor yn y Gogledd.

vlcsnap-2023-06-26-09h50m24s272.jpg

Mae arwynebedd y safle tua 5 hectar. Mae'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd fel cae amaethyddol ar gyfer pori, (gydag amcangyfrif o werth ecolegol isel) ac mae ffos agored wedi'i leinio â choed aeddfed a gwrychoedd ar y terfyn. Mae’r ffos agored yn llifo o ddwyrain y Safle tuag at y canol ac yna'n hollti'n ddwy ffos gan lifo tuag at ffin ddeheuol a gorllewinol y Safle. Amgylchynir y Datblygiad Arfaethedig gan ddaliadau fferm ac amaethyddol a chaeau a ddefnyddir naill ai at ddibenion pori neu amaethu. Gellir darganfod coedwig ddwysedd isel, conwydd, coetir cynhenid, coedwigaeth wedi thorri, coed ifanc a llwyni o fewn 5 km i radiws y safle.

Mae’r Datblygiad Arfaethedig yn cynnwys yr elfennau allweddol a ganlyn: 
6.6MWp o arae solar 
6MWh o storfa batri 
2 gynhwysydd 40 troedfedd, a 2, g
ynhwysydd 20 troedfedd ar gyfer storio batri 
Cyfansoddyn pwrpasol ar gyfer y gwrthdroyddion/gêr switsh 
1 cynhwysydd 20 troedfedd ar gyfer gwrthdröydd batri 
1 cynhwysydd 20 troedfedd ar gyfer swyddfa 
Is-orsaf/trawsnewidydd yng nghanol y Safle a chompownd 5m x 5m wedi'i ffensio 
2 lecyn maint cynhwysydd ar gyfer parcio ychwanegol

bottom of page